Date: 11/09/2026
By: Ioan Lewis
Pembrokeshire Temporary
Mae Dosbarth yn recriwtio Athrawon Cynradd, Athrawon Uwchradd a Chynorthwywyr ar gyfer cyfleoedd mewn ysgolion ledled Sir Benfro.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, dibynadwy ac ymroddedig sydd am gyfrannu'n gadarnhaol at addysg plant a phobl ifanc. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, gan gynnwys gwaith cyflenwi hyblyg, lleoliadau tymor byr a thymor hir, a swyddi rhan-amser a llawn amser.
P'un a ydych yn brofiadol, newydd gymhwyso, yn dychwelyd i'r gwaith neu'n chwilio am gyfle newydd sy'n cynnig mwy o hyblygrwydd, mae Dosbarth yn awyddus i glywed gennych.
Pam Dosbarth?
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar dystysgrif DBS gyfredol sydd wedi'i chofrestru gyda'r Gwasanaeth Diweddaru, neu fod yn barod i gwblhau gwiriad DBS newydd, a rhaid iddynt fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA), neu fod yn barod i gofrestru.
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg, 'Cadw Plant yn Diogel mewn Addysg'. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i'n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.