£172.98 - £172.98 y dydd / per day
Ydych chi'n edrych am waith Cyflenwi dros amryw o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Cheredigion?
Rydym yn recriwtio Athrawon Cyflenwi/ Gorchudd Cyffredinol yn ardal Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Ydych chi? Yn barod i wneud gwahaniaeth yn yr ystafell ddosbarth? Yn chwilio am waith hyblyg sy'n addas i'ch ffordd o fyw? Yn frwd dros ysbrydoli meddyliau ifanc? Yn awyddus i ennill profiad ar draws amrywiaeth o ysgolion?
Pam Dosbarth?
Cyfraddau cyflog ardderchog
Ennill profiad gwerthfawr
Creu cysylltiadau ag ysgolion
Cyfarwyddyd gyrfa unigol a chefnogaeth ANG
Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n gyflenwad dyddiol, swyddi tymor byr, hirdymor.
Mae staff ein swyddfa yn falch ac yn angerddol am ein hiaith Gymraeg. Mae pob aelod o staff ein swyddfa yn siarad Cymraeg felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Cefnogi busnes lleol
Mae’r swydd hon yn amodol ar:-
Y wybodaeth a'r gallu i addysgu'r cwricwlwm cenedlaethol.
Angerdd am addysgu a'r gallu i fod yn gyfeillgar, hyblyg ac yn ddibynadwy
Dulliau addysgu amrywiol y gellir eu haddasu
Sgiliau cyfathrebu rhagorol
Sgiliau trefnu gwych
Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
Bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu fod yn barod i ymuno.
Bod yn athro cymwysedig (SAC) neu ANG.
Dau wiriad tystlythyr proffesiynol
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.