Cynorthwywyr Dosbarth - Ceredigion


Date: 17/02/2026

By: Seren Stock

Ceredigion Temporary

£93.00 - £93.00 y dydd / per day

Rydym yn recriwtio Cynorthwywyr dosbarth i weithio yn ysgolion yng Ngheredigion!

Darperir yr holl hyfforddiant angenrheidiol, felly nid oes angen unrhyw profiad blaenorol. Bydd hyfforddiant cynhwysfawr a chefnogaeth barhaus yn cael eu ddarparu er mwyn sicrhau bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu’r sgiliau a’r gwybodaeth angenrheidiol. Mae’r swydd hon yn addas ar gyfer unigolion sy’n ddibynadwy, yn frwdfrydig, ac yn barod i ddysgu, gan gynnwys y rhai sy’n newydd i’r maes neu sy’n ystyried newid gyrfa. 

Rydym yn chwilio am bobl dyfal, ymroddedig a pharod i ymuno â’n tîm. Byddwch yn derbyn cefnogaeth llawn, gyda chanllawiau clir, hyfforddiant parhaus a chefnogaeth gyson dros bob cam, i’ch helpu i lwyddo a datblygu eich sgiliau.

Mae manteision gweithio gyda Dosbarth yn cynnwys:

  • Ennill profiad gwerthfawr
  • Creu cysylltiadau ag ysgolion
  • Darperir hyfforddiant llawn
  • Mynediad at gyrsiau credyd DPP
  • Canllawiau gyrfa unigol
  • Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n swyddi cyflenwi dyddiol, tymor byr, tymor hir neu barhaol.
  • Cyflogres PAYE felly dim ffioedd cudd gan gwmni cyflogres
  • Rydym yn asiantaeth a sefydlwyd ac a reolir gan athrawon ac arbenigwyr addysg.
  • Rydym yn fusnes balch o Gymru, felly mae croeso i chi gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gwasanaeth personol a chyfeillgar a byddwn yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.
  • Rydym yn gyflenwr o ddewis i Lywodraeth Cymru, ar ôl cael cytundeb fframwaith ar gyfer gwasanaeth a reolir ar gyfer darparu gweithwyr asiantaeth, gan gynnwys athrawon cyflenwi, gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

I fod yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu Cyflenwi llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a'r profiadau canlynol:

  • Angerdd dros weithio gyda phlant a'r gallu i fod yn gyfeillgar, yn hyblyg ac yn ddibynadwy.
  • Amyneddgar a chydymdeimladol a'r gallu i addasu i wahanol anghenion dysgu.
  • Bod yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o'r tîm.
  • Dangos ymrwymiad i gefnogi cynnydd a lles disgyblion.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
  • Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
  • Cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu'r parodrwydd i gofrestru.
  • O leiaf ddau wiriad cyfeirio.

Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.

Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.

Apply now
Apply now

Announcements

Work Based qualifications

29/04/2024
Read more

Datblygiad CPD - Cymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth lefelau 2 i 5

06/04/2022
Read more

CPD Development- Leadership and Management Quals levels 2 to 5

06/04/2022
Read more

CPD Development-Level 3 Specialist Support for Teaching and Learning in Schools

06/04/2022
Read more

×
"We'd love to hear from you!"