Cynorthwywyr Cymorth Dysgu Uwchradd – Ardal Tregaron


Date: 17/09/2026

By: Ioan Lewis

Ceredigion Temporary

£96.50 - £96.50 y dydd / per day

Mae Dosbarth yn recriwtio Cynorthwywyr i weithio mewn ysgolion uwchradd yn ardal Tregaron.

Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i unigolion brwdfrydig ac ymroddedig sydd am gefnogi pobl ifanc a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w profiad addysgol. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgwyr i ddatblygu hyder, ymgysylltu â'u haddysg a chyflawni eu potensial llawn.

Rydym yn cynnig cyfleoedd cyflenwi hyblyg yn ogystal â swyddi llawn amser a rhan-amser.

Yn Dosbarth, credwn fod ysgolion lleol yn haeddu staff lleol sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau a chefnogi pobl ifanc i lwyddo.

Pam Dosbarth?

  • Cyfraddau cyflog ardderchog
  • Ennill profiad gwerthfawr
  • Creu cysylltiadau ag ysgolion
  • Cyfarwyddyd gyrfa unigol a chefnogaeth ANG
  • Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n gyflenwad dyddiol, swyddi tymor byr, hirdymor.
  • Mae staff ein swyddfa yn falch ac yn angerddol am ein hiaith Gymraeg. Mae pob aelod o staff ein swyddfa yn siarad Cymraeg felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
  • Cefnogi busnes lleol
I fod yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu Cyflenwi llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a'r profiadau canlynol:

  • Angerdd dros weithio gyda phlant a'r gallu i fod yn gyfeillgar, yn hyblyg ac yn ddibynadwy.
  • Amyneddgar a chydymdeimladol a'r gallu i addasu i wahanol anghenion dysgu.
  • Bod yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o'r tîm.
  • Dangos ymrwymiad i gefnogi cynnydd a lles disgyblion.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
  • Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
  • Cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu'r parodrwydd i gofrestru.
  • O leiaf ddau wiriad cyfeirio.
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.

Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.

Apply now
Apply now

Announcements

Work Based qualifications

29/04/2024
Read more

Datblygiad CPD - Cymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth lefelau 2 i 5

06/04/2022
Read more

CPD Development- Leadership and Management Quals levels 2 to 5

06/04/2022
Read more

CPD Development-Level 3 Specialist Support for Teaching and Learning in Schools

06/04/2022
Read more

×
"We'd love to hear from you!"