£93.00 - £93.00 y dydd / per day
Cyfle gwych i weithio fel cynorthwyydd dosbarth mewn ysgolion cynradd yn ardal Aberystwyth.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd dosbarth brwdfrydig i weithio mewn ysgolion cynradd yn ardal Aberystwyth. Nid oes angen cymwysterau penodol, ond disgwylir brwdfrydedd, dibynadwyedd a hoffter tuag at weithio gyda phlant. Os ydych yn awyddus i gefnogi disgyblion ac i ddatblygu eich sgiliau mewn ysgolion cynradd, byddem wrth ein bodd i glywed wrthoch!
Yn Dosbarth, byddwn wrth law i’ch cynorthwyo drwy’r broses gyfan – o ddewis y swydd sy’n gweddu i’ch cryfderau, i’ch helpu i ddatblygu’n broffesiynol bob cam o’r ffordd.
Mae manteision gweithio gyda Dosbarth yn cynnwys:
- Ennill profiad gwerthfawr
- Creu cysylltiadau ag ysgolion
- Darperir hyfforddiant llawn
- Mynediad at gyrsiau credyd DPP
- Canllawiau gyrfa unigol
- Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n swyddi cyflenwi dyddiol, tymor byr, tymor hir neu barhaol.
- Cyflogres PAYE felly dim ffioedd cudd gan gwmni cyflogres
- Rydym yn asiantaeth a sefydlwyd ac a reolir gan athrawon ac arbenigwyr addysg.
- Rydym yn fusnes balch o Gymru, felly mae croeso i chi gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Gwasanaeth personol a chyfeillgar a byddwn yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.
- Rydym yn gyflenwr o ddewis i Lywodraeth Cymru, ar ôl cael cytundeb fframwaith ar gyfer gwasanaeth a reolir ar gyfer darparu - gweithwyr asiantaeth, gan gynnwys athrawon cyflenwi, gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
I fod yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu Cyflenwi llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a'r profiadau canlynol:
- Angerdd dros weithio gyda phlant a'r gallu i fod yn gyfeillgar, yn hyblyg ac yn ddibynadwy.
- Amyneddgar a chydymdeimladol a'r gallu i addasu i wahanol anghenion dysgu.
- Bod yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o'r tîm.
- Dangos ymrwymiad i gefnogi cynnydd a lles disgyblion.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
- Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
- Cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu'r parodrwydd i gofrestru.
- O leiaf ddau wiriad cyfeirio.
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.