Cynorthwywyr Dosbarth


Date: 16/09/2025

By: Seren Stock

Ceredigion Temporary

£93.00 - £93.00 y dydd / per day

Rydym yn recriwtio cynorthwywyr dosbarth sy'n siarad Cymraeg dros amryw o ardaloedd leol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. 

Yn Dosbarth, mae ei'n cysylltiadau yn golygu bod modd i ni ddod o hyd i'r rôl fwyaf perthnasol i chi. Trwy ei'n dulliau cefnogol, ynghyd ag ymgynghorwyr profiadol ac ymroddedig, bydd gennych hyder i ddatblygu eich gyrfa yn y maes addysg! 

Mae manteision gweithio gyda Dosbarth yn cynnwys

  • Ennill profiad gwerthfawr
  • Creu cysylltiadau ag ysgolion
  • Darperir hyfforddiant llawn
  • Mynediad at gyrsiau credyd DPP
  • Canllawiau gyrfa unigol
  • Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n swyddi cyflenwi dyddiol, tymor byr, tymor hir neu barhaol.
  • Cyflogres PAYE felly dim ffioedd cudd gan gwmni cyflogres
  • Rydym yn asiantaeth a sefydlwyd ac a reolir gan athrawon ac arbenigwyr addysg.
  • Rydym yn fusnes balch o Gymru, felly mae croeso i chi gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gwasanaeth personol a chyfeillgar a byddwn yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.
  • Rydym yn gyflenwr o ddewis i Lywodraeth Cymru, ar ôl cael cytundeb fframwaith ar gyfer gwasanaeth a reolir ar gyfer darparu gweithwyr asiantaeth, gan gynnwys athrawon cyflenwi, gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

I fod yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu Cyflenwi llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a'r profiadau canlynol:

  • Angerdd dros weithio gyda phlant a'r gallu i fod yn gyfeillgar, yn hyblyg ac yn ddibynadwy.
  • Amyneddgar a chydymdeimladol a'r gallu i addasu i wahanol anghenion dysgu.
  • Bod yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o'r tîm.
  • Dangos ymrwymiad i gefnogi cynnydd a lles disgyblion.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
  • Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
  • Cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu'r parodrwydd i gofrestru.
  • O leiaf ddau wiriad cyfeirio.

Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.

Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.

Apply now
Apply now

Announcements

Work Based qualifications

29/04/2024
Read more

Datblygiad CPD - Cymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth lefelau 2 i 5

06/04/2022
Read more

CPD Development- Leadership and Management Quals levels 2 to 5

06/04/2022
Read more

CPD Development-Level 3 Specialist Support for Teaching and Learning in Schools

06/04/2022
Read more

×
"We'd love to hear from you!"