Athrawon Uwchradd - Ardal Cross Hands


Date: 15/08/2026

By: Ioan Lewis

Carmarthenshire Temporary

£172.80 - £172.80 y dydd / per day

Mae Dosbarth yn recriwtio Athrawon Uwchradd i weithio mewn ysgolion yn ardal Cross Hands.

Rydym yn chwilio am athrawon brwdfrydig, dibynadwy ac ymroddedig sy'n angerddol am eu pwnc ac wedi ymrwymo i helpu disgyblion gyrraedd eu llawn botensial. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu gwersi diddorol, hyrwyddo cynnydd disgyblion a chreu amgylcheddau dysgu cadarnhaol lle gall dysgwyr ffynnu.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon o bob maes pwnc, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, y Dyniaethau, Addysg Gorfforol, Technoleg, Celf ac Ieithoedd Tramor Modern.

P'un a ydych yn athro profiadol, yn Athro Newydd Gymhwyso (AGA), neu'n dychwelyd i'r proffesiwn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael, gan gynnwys swyddi llawn amser, rhan-amser, tymor hir a chyflenwi hyblyg.

Ymunwch â Thîm Dosbarth a gwnewch wahaniaeth mewn ysgolion uwchradd yn ardal Cross Hands.

Pam Dosbarth? 
  • Cyfraddau cyflog ardderchog.
  • Ennill profiad gwerthfawr.
  • Creu cysylltiadau ag ysgolion.
  • Cyfarwyddyd gyrfa unigol a chefnogaeth ANG.
  • Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
  • Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n gyflenwad dyddiol, swyddi tymor byr, hirdymor. 
  • Mae staff ein swyddfa yn falch ac yn angerddol am ein hiaith Gymraeg. Mae pob aelod o staff ein swyddfa yn siarad Cymraeg felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. 
  • Cefnogi busnes lleol.
Mae'r swydd hon yn amodol ar:- 

  • Y wybodaeth a'r gallu i addysgu'r cwricwlwm cenedlaethol. 
  • Angerdd am addysgu a'r gallu i fod yn gyfeillgar, hyblyg ac yn ddibynadwy. 
  • Dulliau addysgu amrywiol y gellir eu haddasu. 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol. 
  • Sgiliau trefnu gwych. 
  • Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un. 
  • Bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu fod yn barod i ymuno. 
  • Bod yn athro cymwysedig (SAC) neu ANG. 
  • Dau wiriad tystlythyr proffesiynol. 
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg, 'Cadw Plant yn Diogel mewn Addysg'. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i'n holl weithwyr. 

Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.

Apply now
Apply now

Announcements

Work Based qualifications

29/04/2024
Read more

Datblygiad CPD - Cymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth lefelau 2 i 5

06/04/2022
Read more

CPD Development- Leadership and Management Quals levels 2 to 5

06/04/2022
Read more

CPD Development-Level 3 Specialist Support for Teaching and Learning in Schools

06/04/2022
Read more

×
"We'd love to hear from you!"