Carmarthenshire Temporary
£172.80 - £172.80 y dydd / per day
Mae Dosbarth yn chwilio am Athrawon Cynradd i weithio mewn ysgolion yn ardal Llanelli.
Rydym yn chwilio am addysgwyr angerddol sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysgu a dysgu o safon uchel. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd disgyblion, meithrin cariad at ddysgu a chyfrannu at gymunedau ysgol bywiog.
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael, gan gynnwys cyflenwi dydd i ddydd, lleoliadau tymor byr a swyddi addysgu tymor hir.
Ymunwch â Thîm Dosbarth a gwnewch wahaniaeth mewn ysgolion cynradd yn ardal Llanelli.
Pam Dosbarth?
- Cyfraddau cyflog ardderchog
- Ennill profiad gwerthfawr
- Creu cysylltiadau ag ysgolion
- Cyfarwyddyd gyrfa unigol a chefnogaeth ANG
- Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
- Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n gyflenwad dyddiol, swyddi tymor byr, hirdymor.
- Mae staff ein swyddfa yn falch ac yn angerddol am ein hiaith Gymraeg. Mae pob aelod o staff ein swyddfa yn siarad Cymraeg felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
- Cefnogi busnes lleol
Mae’r swydd hon yn amodol ar:-
- Y wybodaeth a'r gallu i addysgu'r cwricwlwm cenedlaethol.
- Angerdd am addysgu a'r gallu i fod yn gyfeillgar, hyblyg ac yn ddibynadwy
- Dulliau addysgu amrywiol y gellir eu haddasu
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau trefnu gwych
- Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
- Bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu fod yn barod i ymuno.
- Bod yn athro cymwysedig (SAC) neu ANG.
- Dau wiriad tystlythyr proffesiynol
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.