Carmarthenshire Temporary
£172.98 - £172.98 y dydd / per day
Ydych chi'n edrych am waith Cyflenwi yn ysgolion uwchradd yn ardal Llandeilo?
Rydym yn recriwtio Athrawon Cyflenwi/ Gorchudd Cyffredinol yn ardal Llandeilo!
Ydych chi? Yn barod i wneud gwahaniaeth yn yr ystafell ddosbarth? Yn chwilio am waith hyblyg sy'n addas i'ch ffordd o fyw? Yn frwd dros ysbrydoli meddyliau ifanc? Yn awyddus i ennill profiad ar draws amrywiaeth o ysgolion?
Pam Dosbarth?
- Cyfraddau cyflog ardderchog
- Ennill profiad gwerthfawr
- Creu cysylltiadau ag ysgolion
- Cyfarwyddyd gyrfa unigol a chefnogaeth ANG
- Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
- Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n gyflenwad dyddiol, swyddi tymor byr, hirdymor.
- Mae staff ein swyddfa yn falch ac yn angerddol am ein hiaith Gymraeg. Mae pob aelod o staff ein swyddfa yn siarad - Cymraeg felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
- Cefnogi busnes lleol
Mae’r swydd hon yn amodol ar:-
- Y wybodaeth a'r gallu i addysgu'r cwricwlwm cenedlaethol.
- Angerdd am addysgu a'r gallu i fod yn gyfeillgar, hyblyg ac yn ddibynadwy
- Dulliau addysgu amrywiol y gellir eu haddasu
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau trefnu gwych
- Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
- Bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu fod yn barod i ymuno.
- Bod yn athro cymwysedig (SAC) neu ANG.
- Dau wiriad tystlythyr proffesiynol
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.