£172.98 - £172.98 y dydd / per day
Ydych chi newydd gymhwyso ac yn barod i ddechrau ar eich taith dysgu?
Mae gan Dosbarth ystod eang o gyfleoedd newydd i Athrawon Newydd Gymhwyso (NQTs) ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. P’un a ydych yn chwilio am waith cyflenwi i ennill profiad, neu’n barod i ymgymryd â swydd tymor hir neu barhaol, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r rôl sy’n addas i chi. Gyda chefnogaeth bersonol a chysylltiadau cryf gyda ysgolion lleol, mae Dosbarth yma i’ch cefnogi drwy bob cam o’ch gyrfa dysgu.
Pam Dosbarth?
Cyfraddau cyflog ardderchog
Ennill profiad gwerthfawr
Creu cysylltiadau ag ysgolion
Cyfarwyddyd gyrfa unigol a chefnogaeth ANG
Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n gyflenwad dyddiol, swyddi tymor byr, hirdymor.
Mae staff ein swyddfa yn falch ac yn angerddol am ein hiaith Gymraeg. Mae pob aelod o staff ein swyddfa yn siarad Cymraeg felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Cefnogi busnes lleol
Mae’r swydd hon yn amodol ar:-
Y wybodaeth a'r gallu i addysgu'r cwricwlwm cenedlaethol.
Angerdd am addysgu a'r gallu i fod yn gyfeillgar, hyblyg ac yn ddibynadwy
Dulliau addysgu amrywiol y gellir eu haddasu
Sgiliau cyfathrebu rhagorol
Sgiliau trefnu gwych
Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
Bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu fod yn barod i ymuno.
Bod yn athro cymwysedig (SAC) neu ANG.
Dau wiriad tystlythyr proffesiynol
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.