Carmarthenshire   Temporary 
                             
                            
                                £93.00 - £93.00 y dydd / per day
                            
                            
                                
                                    
Cyfle gwych i weithio fel cynorthwyydd dosbarth yn ardal Crosshands. 
Ymunwch ag ysgolion cyfeillgar a chefnogol yn Crosshands lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd. Fel Cynorthwyydd Dysgu, byddwch yn helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial drwy gynnig cefnogaeth, anogaeth a gofal proffesiynol. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i ddatblygu eich sgiliau, gweithio fel rhan o dîm brwdfrydig, a chwarae rhan allweddol wrth greu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol. 
Yn Dosbarth, byddwch yn derbyn cefnogaeth drwy gydol y broses  – o ddewis y swydd sy’n gweddu orau i chi… i’ch helpu i ddatblygu yn broffesiynol dros pob cam o’r daith.
Mae manteision gweithio gyda Dosbarth yn cynnwys:
Ennill profiad gwerthfawr
Creu cysylltiadau ag ysgolion
Darperir hyfforddiant llawn
Mynediad at gyrsiau credyd DPP
Canllawiau gyrfa unigol
Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n swyddi cyflenwi dyddiol, tymor byr, tymor hir neu barhaol.
Cyflogres PAYE felly dim ffioedd cudd gan gwmni cyflogres
Rydym yn asiantaeth a sefydlwyd ac a reolir gan athrawon ac arbenigwyr addysg.
Rydym yn fusnes balch o Gymru, felly mae croeso i chi gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwasanaeth personol a chyfeillgar a byddwn yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.
Rydym yn gyflenwr o ddewis i Lywodraeth Cymru, ar ôl cael cytundeb fframwaith ar gyfer gwasanaeth a reolir ar gyfer darparu gweithwyr asiantaeth, gan gynnwys athrawon cyflenwi, gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
I fod yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu Cyflenwi llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a'r profiadau canlynol:
Angerdd dros weithio gyda phlant a'r gallu i fod yn gyfeillgar, yn hyblyg ac yn ddibynadwy.
Amyneddgar a chydymdeimladol a'r gallu i addasu i wahanol anghenion dysgu.
Bod yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o'r tîm.
Dangos ymrwymiad i gefnogi cynnydd a lles disgyblion.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
Cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu'r parodrwydd i gofrestru.
O leiaf ddau wiriad cyfeirio.
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.