Athrawon Cyflenwi - Athrawon Newydd Gymhwyso (NQT'S)


Date: 12/01/2026

By: Seren Stock

Carmarthenshire Temporary

£172.98 - £172.98 y dydd / per day

Ydych chi newydd gymhwyso ac yn barod i ddechrau ar eich taith dysgu? 

Mae Dosbarth yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i NQTs ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a Sir Benfro. Os ydych yn chwilio am waith cyflenwi i ennill profiad, mae gennym gyfleoedd i chi ddatblygu’ch sgiliau, ac os ydych yn barod i ymgymryd â swyddi tymor hir neu barhaol, rydym yn eich cefnogi i ddod o hyd i’r rôl sy’n addas i’ch cynlluniau gyrfa. Gyda chefnogaeth bersonol a chysylltiadau cryf gyda ysgolion lleol, bydd Dosbarth gyda chi bob cam o’r ffordd i ddatblygu’ch gyrfa dysgu.

Pam Dosbarth?

Cyfraddau cyflog ardderchog
Ennill profiad gwerthfawr
Creu cysylltiadau ag ysgolion
Cyfarwyddyd gyrfa unigol a chefnogaeth ANG
Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n gyflenwad dyddiol, swyddi tymor byr, hirdymor.
Mae staff ein swyddfa yn falch ac yn angerddol am ein hiaith Gymraeg. Mae pob aelod o staff ein swyddfa yn siarad Cymraeg felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Cefnogi busnes lleol

 Mae’r swydd hon yn amodol ar:-

Y wybodaeth a'r gallu i addysgu'r cwricwlwm cenedlaethol.
Angerdd am addysgu a'r gallu i fod yn gyfeillgar, hyblyg ac yn ddibynadwy
Dulliau addysgu amrywiol y gellir eu haddasu
Sgiliau cyfathrebu rhagorol
Sgiliau trefnu gwych
Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
Bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu fod yn barod i ymuno.
Bod yn athro cymwysedig (SAC) neu ANG.
Dau wiriad tystlythyr proffesiynol
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.

Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.

Apply now
Apply now

Announcements

Work Based qualifications

29/04/2024
Read more

Datblygiad CPD - Cymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth lefelau 2 i 5

06/04/2022
Read more

CPD Development- Leadership and Management Quals levels 2 to 5

06/04/2022
Read more

CPD Development-Level 3 Specialist Support for Teaching and Learning in Schools

06/04/2022
Read more

×
"We'd love to hear from you!"